Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i ryngwyneb arolwg Arolwg Cenedlaethol Cymru, sef yr offeryn a ddefnyddir i gasglu manylion cyswllt gan ddarpar gyfranogwyr yr Arolwg Cenedlaethol (https://horizons.confirmit.eu/wix/p267027625084.aspx?l=512&ep=3).
Kantar Public sy’n rhedeg y rhyngwyneb arolwg hwn. Mae arnom eisiau i gynifer â phosibl o bobl allu defnyddio’r rhyngwyneb arolwg.
Rydym wedi dylunio ein rhyngwyneb arolwg gan ystyried hygyrchedd a chanllawiau arferion gorau o ran hygyrchedd gwe.
Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
Cafodd cynnwys y rhyngwyneb arolwg hwn ei ysgrifennu a’i strwythuro gan ddefnyddio iaith hygyrch lle bo hynny’n bosibl. Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Gellir dod o hyd i fanylion am sut y gellir addasu’r rhyngwyneb arolwg i ddiwallu anghenion hygyrchedd isod.
Gall hyn fod yn ddefnyddiol os oes gennych olwg gwan ac os ydych angen cyferbynnedd uchel.
Yn Microsoft Edge, cliciwch ar ‘Settings’ a dewiswch y botwm ‘Accessibility’. Gallwch anwybyddu’r dewis ar gyfer fformatio tudalennau. Dychwelwch at y tab ‘General’ a nodwch eich dewisiadau trwy ddefnyddio’r botwm ‘Appearance’.
Yn Firefox, cliciwch ar y botwm ‘Menu’ a dewiswch ‘Settings’. Dan yr adran ‘Language and Appearance’, dewiswch y botwm ‘Manage Colours’. Bydd ffenestr yn agor lle gallwch nodi eich dewisiadau. Dewiswch yr opsiwn ‘Always’ o blith y gwymplen ‘Override the colours specified by the page with my selections above’. Cliciwch ar ‘OK’ i ddychwelyd at Firefox.
Ar hyn o bryd, nid yw Google Chrome na Safari yn cynnwys opsiwn i newid lliwiau’r testun a’r cefndir. I ddod o hyd i estyniadau hygyrchedd ar gyfer Chrome, ewch i’r Chrome Web Store a chwiliwch am ‘accessibility’.
Fel arall, gallwch newid y gosodiadau yn eich system weithredu fel y bydd y lliwiau a ddewiswch yn ymddangos bob tro y defnyddiwch eich cyfrifiadur. Bydd y cyfarwyddiadau’n amrywio gan ddibynnu ar eich system weithredu. Gellir dod o hyd iddynt ar y wefan My Computer My Way
Gallwch chwyddo maint y ffont er mwyn ei wneud yn fwy trwy addasu gosodiadau eich porwr. Efallai y bydd hyn yn ddefnyddiol os oes gennych olwg gwan.
Gan ddefnyddio eich bysellfwrdd, daliwch y botwm Ctrl i lawr a phwyswch y botwm = i chwyddo i mewn, pwyswch y botwm – (minws) i chwyddo allan, neu dychwelwch at y maint safonol trwy bwyso’r botwm 0 (sero).
Os oes gennych lygoden olwyn, gallwch chwyddo i mewn trwy bwyso Ctrl a symud olwyn y llygoden ar yr un pryd.
Yn achos y rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol, megis cyfrifiaduron llechen a ffonau clyfar, gallwch gyffwrdd y sgrin i newid maint y dudalen – ‘gwasgu a chwyddo i mewn’ ac ati. Efallai hefyd y bydd tapio’r sgrin ddwywaith yn arwain at yr un effaith.
Mae’n bosib llywio’r rhyngwyneb arolwg gan ddefnyddio eich bysellfwrdd.
Defnyddiwch y saethau i lywio o un ymateb i’r llall yn achos cwestiynau lle gallwch ddewis un ateb yn unig.
Defnyddiwch y fysell tab i symud trwy’r opsiynau ymateb ar gyfer yr holl gwestiynau eraill.
Defnyddiwch y fysell tab i symud o’r opsiynau ymateb at y botymau ymlaen ac yn ôl, a ddefnyddir i symud rhwng cwestiynau.
Gallwch ddefnyddio’r fysell Enter neu Return i ddewis opsiwn ymateb, neu dewiswch y botymau ymlaen ac yn ôl.
Mae modd llywio trwy’r rhyngwyneb arolwg trwy ddefnyddio darllenydd sgrin. Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur Windows neu Apple, efallai y bydd eich system weithredu’n cynnwys offer darllen sgrin. Mae gwahanol fathau o feddalwedd darllen sgrin ar gael, ac mae ambell un am ddim. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan yr RNIB, sef elusen sy’n cynorthwyo pobl sy’n colli eu golwg.
Mae’r rhyngwyneb arolwg hwn yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 safon AA.
Gwyddom nad yw rhannau canlynol y rhyngwyneb arolwg yn hollol hygyrch.
Ni wnaiff y testun ail-lifo mewn colofn sengl wrth newid maint ffenestr y porwr.
Efallai y bydd addasu uchder y llinell neu’r bwlch rhwng y tesun yn peri i rywfaint o’r cynnwys orgyffwrdd.
Rydym yn gweithio i dynnu sylw at faterion hygyrchedd yn ymwneud â’r rhyngwyneb arolwg ac rydym yn gweithio gyda datblygwyr i wella hygyrchedd i’r defnyddwyr.
Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi cael eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni trwy ddefnyddio’r manylion isod.
Os oes angen yr wybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol:
E-bost: arolwgcenedlaetholcymru@kantarpublic.com
Ffôn: 0800 136 740
I’n helpu i ddeall eich anhawster yn gyflym, cyfeiriwch at ‘hygyrchedd’ yn eich cais. Croesawir pob darn o adborth adeiladol am hygyrchedd neu ddefnyddioldeb a bydd yn cael ei ystyried yn ofalus.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) .
Rhedir y rhyngwyneb arolwg hwn gan Kantar Public. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r rhyngwyneb arolwg. Rydym wedi dylunio ein rhyngwyneb arolwg gan ystyried hygyrchedd a chanllawiau arferion gorau o ran hygyrchedd gwe.
Mae’r rhyngwyneb arolwg hwn yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 safon AA oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Nid yw’r cynnwys sy’n cael ei restru isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Ni wnaiff y testun ail-lifo mewn colofn sengl wrth newid maint ffenestr y porwr. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1, 1.4.10 (ail-lif).
Efallai y bydd addasu uchder y llinell neu’r bwlch rhwng y tesun yn peri i rywfaint o’r cynnwys orgyffwrdd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1, 1.4.12 (Bylchau testun).
Rydym yn gweithio gyda datblygwyr i ddatrys y broblem hon. Os na ddeuir o hyd i ateb, byddwn yn ymchwilio i ddarparwyr rhyngwyneb arolwgau amgen ar gyfer contractau yn y dyfodol.
Paratowyd y datganiad hwn ar 7 Rhagfyr. Fe’i hadolygwyd y tro diwethaf ar 7 Rhagfyr.
Cafodd y rhyngwyneb yr arolwg ar-lein hwn ei brofi ddiwethaf ar 28 Tachwedd. Cynhaliwyd y prawf gan Kantar Public.
© 2023 Kantar Public
Gallwch nawr gau'r dudalen i lawr.